top of page
Background

Digwyddiadau Blaenorol

CYnhyrchiant:
Trefnu er mwyN TYFU

Mae gwella cynhyrchiant yn bwysicach nag erioed i sector bwyd a diod sy’n wynebu storm berffaith o ran chwyddiant cynyddol mewn costau cynhyrchu a’r broblem o ostyngiad yn y galw o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Thema ein cynhadledd Cynhyrchiant: Trefnu Er Mwyn Tyfu ar 2 Chwefror yn AMRC Cymru oedd rheoli costau a chyflawni mwy o ganlyniadau gyda llai o adnoddau mewn ffordd sy’n gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol.

​

Cliciwch YMA i ddarganfod mwy.

RHIO MEWNWELEDIAD BUSNES GWELL I CHI'CH HUN

Ydych chi'n cael y gorau o'ch cyfrifydd neu system gyfrifo?

A oes gennych y mewnwelediad sydd ei angen, pan fydd ei angen, i wneud penderfyniadau busnes cywir?

Ymunwch â’n cyfres o 3 trafodaeth banel ar-lein ar y cyd gyda Old Mill i gael cyngor, arweiniad ac awgrymiadau ar sut i gael y budd mwyaf posibl o'ch pecyn cyfrifyddu.

HERIAU CYFFREDIN

SEFYDLU AR GYFER LLWYDDIANT

RHAGOLYGON ECONOMAIDD AC EFFAITH YMDDYGIAD DEFNYDDWYR

Gan Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru.

​

Cyflwynodd y Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Cymru ar y pynciau canlynol:

​

Adolygiad a Rhagolwg o economi Prydain Fawr a'r goblygiadau i'r diwydiant bwyd a diod

​

Mynegeion Economaidd: Gan gynnwys set o fynegeion economaidd sy'n benodol berthnasol i fwyd a diod

​

Ymddygiad Siopwyr: Effaith ar ymddygiad siopwyr a goblygiadau i fusnesau bwyd a diod

ARIAN I DYFU 2022

Bu cynhadledd gyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Arian I Dyfu, yn archwilio’n fanylach sut mae’r tair elfen o ehangu – cyfalaf, capasiti a chymwyseddau – yn allweddol i dwf cynaliadwy a llwyddiant busnesau bwyd a diod Cymru.  

Cafodd Arian i Dyfu ei gynnal yn y Bathdy Brenhinol ar ddydd Iau 24 Mawrth 2022.      

Cliciwch YMA i ddarganfod mwy.

Cost Sgamiau e-fasnach a sut i'w hosgoi!

Disgwylir i werthiannau e-fasnach gyfrif am 21.8% o werthiannau manwerthu byd-eang erbyn 2024. Fodd bynnag, mae arolwg diweddar* wedi dangos bod “bron i draean o fusnesau ledled y wlad wedi nodi eu bod wedi dioddef

toriadau diogelwch trwy ymosodiadau seiber dros y 12 mis diwethaf, o gymharu â 35 y cant yng Nghymru a’r De-orllewin” gyda cholled gyfartalog o £35,000**.

​

Beth allwch chi ei wneud i atal eich busnes bwyd neu ddiod rhag dod yn ddioddefwr sgâm e-fasnach? Mae cymorth wrth law.

​

Bydd y panel yn edrych ar:

• Sut i adnabod sgâm e-fasnach?

• Pa gamau ataliol y dylech fod yn eu cymryd?

• Sgamiau allforio cysylltiedig ag e-fasnach – awgrymiadau ar sut i'w canfod a'u hosgoi

​

​

Mae’r panel ar gyfer y weminar hon yn cynnwys:

• Michael Evans, Uwch Gydymaith Allforio, Clwstwr Allforio/BIC Innovation

• Sarah Morris, Cyflymu Cymru i Fusnesau.

​

*Adroddiad gan y cwmni cyfrifyddu a chynghori busnes BDO LLP

** Rheswm Byd-eang - Yswirio'ch enw da

PARATOI AR GYFER BUDDSODDIAD: SUT I BARATOI CYNNIG ARIANNOL

Os ydych yn ystyried buddsoddiad cyfalaf neu fenthyca arian i ehangu yn 2022, ymunwch â’r weminar hon gan y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy lle bydd panel o arbenigwyr yn trafod sut y gallwch gael gafael ar y cyllid sy’n iawn i chi a pharatoi achos busnes i gael benthyg arian neu ddenu buddsoddiad.

​

Bydd y panel yn trafod:

  • Ffynonellau a mathau o fuddsoddiad

  • Asesu cost arian

  • Prynu, gwerthu neu gydweithredu – beth yw’r opsiynau ar gyfer ehangu?

  • Mynediad at gyllid – pwysigrwydd gwybodaeth reoli dda

​

Mae'r panel ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys:

  • Alun Thomas, Rheolwr Rhanbarthol, Banc Datblygu Cymru

  • Kathryn Mansell , Cynghorydd Cyllid Cor oraethol, Old Mill

  • Joan Edwards, Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Rheolwr Clwstwr/Cyfrifydd

  • John Taylerson, Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Rheolwr Rhaglen/Cyflwynydd

Pa Mor Broffidiol Yw'ch Busnes E-fasnach?

Bydd y weminar hon yn cynnwys arddangosiad ar sut i gyfrifo a yw'ch e-fasnach yn broffidiol a hefyd yn archwilio: 

Faint mae'n ei gostio i gaffael cwsmer e-fasnach newydd, ac yna eu cadw?

  • Faint o arian mae pob cwsmer e-fasnach yn ei gynhyrchu?

  • Sut i wybod pryd i werthu ar eich gwefan eich hun neu drwy brif fanwerthwr ar-lein e.e. Not On The High Street, Amazon ac ati.

Mae'r panel ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys:
 
  • John Taylerson, Rheolwr Rhaglen, Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy.​

  • Joan Edwards, Cyfrifydd a Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol.

Yn dilyn codiadau sylweddol mewn costau ynni yn 2021, mae'r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn eich gwahodd i ymuno â gweminar ar-lein i ddefnyddwyr ynni fynd i'r afael â rhai o'r pynciau allweddol y gallai eich busnes fod yn eu gofyn eisoes:
 
  • Beth yw'r rhagolwg diweddaraf ar gyfer costau ynni?

  • Beth alla i wneud i reoli neu liniaru'r chwyddiant?

  • Pa ddewisiadau cytundebol sydd ar gael: Cyflenwyr, Cyfnodau Cloi i Mewn, Cymwysterau Gwyrdd, Telerau ac Amodau?

  • Pa ffynonellau cyngor eraill sydd ar gael?

Y panel ar gyfer y gweminar hwn yw:

  • Gavin Williams, Uwch Reolwr Ynni, Innovative Energy

  • Stephen O’Leary, Rheolwr Arloesi a Thwf, Innovate Edge

  • Paul Bezani Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol SSU/ Cadeirio

Pa Mor Broffidiol Yw'ch Busnes E-fasnach?

Bydd y weminar hon yn cynnwys arddangosiad ar sut i gyfrifo a yw'ch e-fasnach yn broffidiol a hefyd yn archwilio: 

Faint mae'n ei gostio i gaffael cwsmer e-fasnach newydd, ac yna eu cadw?

  • Faint o arian mae pob cwsmer e-fasnach yn ei gynhyrchu?

  • Sut i wybod pryd i werthu ar eich gwefan eich hun neu drwy brif fanwerthwr ar-lein e.e. Not On The High Street, Amazon ac ati.

Mae'r panel ar gyfer y digwyddiad hwn yn cynnwys:
 
  • John Taylerson, Rheolwr Rhaglen, Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy.​

  • Joan Edwards, Cyfrifydd a Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol.

ICC.jpg

Roedd timau'r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy a Barod Am Fuddsoddiad wrth law yn y Parth Buddsoddwyr yn ystod Blas Cymru i drafod cynlluniau twf a'r opsiynau cyllid sydd ar gael i gefnogi busnes bwyd a diod yng Nghymru yn ystod y proses cynyddu. Cynhaliwyd Blas Cymru 2021 yng Nghanolfan Confensiwn Rhyngwladol Cymru ar ddydd Mercher 27ain a dydd Iau 28ain Hydref 2021.

​

Fe wnaethom gynnal dros 80 o gyfarfodydd yn y Parth Buddsoddwyr rhwng busnesau bwyd a diod Gymreig a 12 darpar fuddsoddwr a darparwr cyllid ddaru ni wahodd i'r Parth Buddsoddwyr.

​

Darllenwch fwy YMA.

bottom of page