Cyflwyniad
Wrth i’r haf agosáu, mae chwyddiant a chost mewnbynnau uchel yn dal yn y penawdau, tra bod y pwysau’n parhau ar elw’r gadwyn gyflenwi bwyd. Mae adroddiad diweddaraf yr IGD yn darogan bod disgwyl i chwyddiantostwng yn araf wrth i 2023 fynd yn ei blaen, ar +8% i +10% ddiwedd y flwyddyn. Darllenwch i weld sut i lawrlwytho eu hadroddiad llawn. Mae’r Clwstwr yn falch o gyhoeddi ein hail adroddiad blynyddol, sy’n cnoi cil ar yr hyn sydd wedi bod yn ddeuddeg mis heriolarall i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Rheolwr y Rhaglen, John Taylerson, sy’n pwyso a mesur a allai cyrchu offer rhatach o dramor fod yn economi ffug.
Blog: Mae cyrchu offer prosesu a phecynnu bwyd rhatach o dramor yn ddrutach na’r disgwyl
Yn ddiweddar rydw i wedi gweld pobl yn prynu offer o’r Dwyrain Pell, ac mae’r penderfyniad sy’n cael ei wneud fel arfer ar sail y gwahaniaeth cost rhwng offer o Brydain neu Ewrop ochr yn ochr â’r dwyrain pell yn ymddangos fel un na ellir ei gyfiawnhau. Ond rwy'n credu bod y farn honno’n anghywir.
Beth nesaf i chwyddiant bwyd?
Cyrhaeddodd chwyddiant bwyd ei lefel uchaf ers 45 mlynedd yn ystod Ch1 2023 ac mae’n parhau i gael effaith sylweddol ar rym gwario mewn cartrefi.
Banc Gwybodaeth: adnoddau am ddim i fusnesau bwyd a diod
Mae gan Fanc Gwybodaeth ar-lein y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy amrywiaeth o adnoddau defnyddiol i’ch cefnogi chi gyda rhai o’r penderfyniadau a wnewch yn y eich busnes bwyd a diod; adnoddau dyled ac ecwiti rhyngweithiol, rhestr o dermau cyllid, fideos sy’n rhoi mewnwelediad ariannol i'ch helpu i loywi eich gwybodaeth ariannol neu ganllawiau cymorth i'ch helpu i werthuso lle gallai fod bylchau yn eich busnes.
Ewch i’r Banc Gwybodaeth FAN HYN
Ymweliadau Maes: Puffin Produce
Puffin Produce oedd y diweddaraf i’n croesawu yn ein rhaglen o ymweliadau maes ar ddydd Iau 8fed Mehefin 2023. Edrychodd yr ymweliad ar sut roedd eu system gwybodaeth reoli yn allweddol wrth redeg busnes hynod o gymhleth.
Darllenwch fwy YMA
Pecyn Cymorth Ynni Busnes
Adnoddau a chyngor arbenigol i helpu gweithgynhyrchwyr BBaCh i leihau eu defnydd o ynni a chynyddu proffidioldeb.
Darllenwch fwy YMA
Adroddiad Blynyddol Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy 2022-23
Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein hail adroddiad blynyddol, wrth i ni dynnu sylw at weithgareddau a llwyddiannau’r clwstwr, a sut mae’r gweithgareddau hyn wedi helpu i fynd i’r afael â’r pedwar rhwystr allweddol i dyfu.
Darllenwch yr adroddiad FAN HYN
Cyllid Pinciau Poeth
A all lleihau braster, halen a siwgr leihau TAW hefyd?
Darllenwch arsylwadau bwyd a diod Grant Thornton ar gyfer Ch1 2023 i gael gwybod mwy.
Sbardunwr NatWest bellach ar agor am geisiadau
Mae Sbardunwr NatWest yn cefnogi ac yn grymuso entrepreneuriaid a pherchnogion busnes y DU i dyfu eu busnesau i’r lefel nesaf drwy raglen Sbarduno chwe mis sy'n cael ei hariannu’n llawn.
Cymru yw’r gorau yn y DU am gwmnïau ym mherchnogaeth merched sy’n tyfu’n gyflym
Wales is outperforming other UK nations for fast-growth firms founded by female entrepreneurs, according to this year’s Gender Index.
Some 12.1% of fast-growth companies in Wales in 2022-23 were female-led – the highest level of all UK nations and English regions. The rate has improved from 11.9% in 2021-22.
Darllenwch fwy FAN HYN
Blas Cymru/Taste Wales
Bydd BlasCymru/TasteWales yn dychwelyd ar 25 a 26 Hydref 2023 yn yr ICC yng Nghasnewydd. Hwn fydd y pedwerydd digwyddiad masnach bwyd a diod ryngwladol yn unig ar gyfer y diwydiant yng Nghymru.
I gofrestru eich diddordeb ewch i www.tastewales.com
Cysylltu!
Os ydych chi’n fusnes bwyd neu ddiod Cymreig sydd ag uchelgais i dyfu ac yn chwilio am yr adnoddau a’r arbenigedd i helpu â’ch cynlluniau i dyfu, cysylltwch â ni am ymgynghoriad un i un ag un o’n Rheolwyr Clystyrau YMA