top of page
Search
Writer's pictureSSU Cluster

SSU Clwstwr Cylchlythyr - Chwefror 2022

Cyflwyniad

Wrth i ni fyfyrio ar ein 12 mis cyntaf fel Clwstwr, mae’n bleser gennym adrodd ein bod bellach wedi cofrestru hanner canfed aelod y Clwstwr. Felly, beth ydym ni wedi’i ddysgu yn ystod y flwyddyn gyntaf o siarad â 50 o fusnesau bwyd a diod o Gymru am eu huchelgeisiau i uwchraddio? Bod cyfalaf, capasiti a chymwyseddau yn dair her allweddol i fusnesau sy’n cynllunio twf. Mewn gwirionedd, maen nhw mor hanfodol fel y bydd ein cynhadledd gyntaf, Arian i Dyfu, yn archwilio'r rhain yn fanylach gyda chynrychiolwyr o Rabobank a Banc Datblygu Cymru, ymhlith eraill. Cynhelir y gynhadledd ar 24 Mawrth 2022 yn y Bathdy Brenhinol. Gallwch weld yr agenda lawn a chofrestru i gael eich tocyn am ddim YMA.



Cost Arian: Buddsoddiad Ecwiti – Beth yw Ystyr Hynny? Rhan 1

Wyn Jones, Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol


Nodwedd boblogaidd iawn a fynnodd lawer o ddiddordeb ar ein stondin Parth Buddsoddwyr yn nigwyddiad diweddar Blas Cymru, oedd ein Diagram Venn Ecwiti (gweler yma). Mae'n amlinellu, yn gyffredinol, lle gallai gwahanol fathau o fuddsoddiad ecwiti fod yn briodol mewn cylch bywyd busnes.

Darllenwch ran un YMA


Clwstwr SSU yn cofrestru ei hanner canfed aelod


Wrth i’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy ddathlu ei ben-blwydd cyntaf, mae’n bleser cyhoeddi ein bod wedi cofrestru ein hanner canfed aelod.

Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths: “Mae’n newyddion gwych bod y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wedi cofrestru ei hanner canfed aelod, lai na blwyddyn ar ôl cychwyn.”

Darllenwch fwy YMA


Cyllid Pynciau Poeth


CThEM yn rhoi mwy o amser i drethdalwyr sy’n hunanasesu er mwyn lleddfu pwysau COVID-19

Ni fydd cosbau ffeilio hwyr yn berthnasol tan ddiwedd mis Chwefror, gan roi tan ddiwedd mis Chwefror i unigolion ffeilio eu ffurflenni treth i bob pwrpas. Yn ogystal, ni fydd cosbau am dalu’n hwyr yn berthnasol os gwneir y taliad cyntaf yn llawn erbyn 1 Ebrill, gan roi tan y dyddiad hwnnw i unigolion wneud eu taliadau cyntaf.

Darllenwch fwy YMA


Hyder Busnes Cymru'n Sefydlog cyn Effaith Omicron

Gostyngodd hyder busnes un y cant yn ystod mis Rhagfyr i 36%, yn sgil Omicron a chyfyngiadau pellach. Gyda gwyddonwyr yn debygol o gael gwell dealltwriaeth o Omicron yn y Flwyddyn Newydd, mae'r ffigur hwn yn debygol o wella yn y dyfodol.

Darllenwch fwy YMA

Mewnwelediadau Bwyd a Diod, hydref 2021. Golwg ar y gweithgarwch uno a chaffael yn Chwarter 3 ar gyfer 2021, fel y darparwyd gan Grant Thornton.

Gwelodd Chwarter 3 gwerth £3,803.5 miliwn o weithgarwch bargeinion a ddatgelwyd, gyda nifer y bargeinion yn parhau i fod yn gyson â Chwarter 2 yn 2021. Y sector rhydd-o-gig oedd y sector mwyaf poblogaidd, a ysgogwyd yn ôl pob tebyg gan y mis Ionawr feganaidd oedd ar ddod. Ar y cyfan, mae busnesau yn fwy deniadol os oes ganddynt dîm rheoli cryf, cyllid sylfaenol cryf a safle clir yn y farchnad.

Darllenwch fwy YMA

Yr olygfa o Gymru (optimistiaeth busnes). Arolwg byr a atebwyd gan arweinwyr busnes yng Nghymru, fel y darparwyd gan Grant Thornton.

Darllenwch fwy YMA



Ffocws Ar: A yw eich eiddo chi yn cyfyngu ar eich capasiti?


Gall lleoliad gynrychioli un o'r cyfyngiadau mwyaf o ran capasiti ar fusnesau bwyd neu ddiod. A ydych yn cynhyrchu yn eich eiddo eich hun, neu a ydych yn defnyddio trydydd parti ar gyfer eich contract prosesu neu bacio?

Darllenwch blog John YMA


Gweithlu Bwyd Cymru

Beth yw Gweithlu Bwyd Cymru?

Mae Gweithlu Bwyd Cymru yn ymgyrch a ddarperir gan Sgiliau Bwyd Cymru (Lantra) ar ran Bwyd a Diod Cymru (Llywodraeth Cymru).

Gan arddangos pa mor foddhaus ac amrywiol y gall gyrfa yn niwydiant bwyd a diod ffyniannus Cymru fod, nod yr ymgyrch hon yw rhoi sylw i’r rolau sy’n helpu i fwydo’r genedl. O gyfrannu ar draws y gadwyn gyflenwi a chynhyrchu bwyd, hyd at fod ar flaen y gad o ran datblygiadau cynnyrch rhyngwladol newydd ac arloesol, mae gan bob rôl ei rhan i'w chwarae yn y daith bwysig o gynhwysion i gynhyrchion gorffenedig.



Digwyddiadau’r dyfodol agos


Arian i Dyfu

Bydd cynhadledd gyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy: Arian i Dyfu, yn edrych yn fanylach ar sut mae’r 3C - cyfalaf, capasiti, cymwyseddau - yn allweddol i dwf cynaliadwy a llwyddiant busnesau bwyd a diod Cymru.

Cofrestrwch YMA


Paratoi ar Gyfer Buddsoddiad

Os ydych yn ystyried buddsoddiad cyfalaf neu fenthyca arian i ehangu yn 2022, ymunwch â’r weminar hon gan y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy lle bydd panel o arbenigwyr yn trafod sut y gallwch gael gafael ar y cyllid sy’n iawn i chi a pharatoi achos busnes i gael benthyg arian neu ddenu buddsoddiad.

Cofrestrwch YMA



Cost Sgamiau E-fasnach...a sut i'w hosgoi!

Disgwylir i werthiannau e-fasnach gyfrif am 21.8% o werthiannau manwerthu byd-eang erbyn 2024.

Cofrestrwch YMA



Cwrdd â’r Tîm - Kevin Young

Y mis hwn, rydym yn croesawu Kevin i dîm Clwstwr SSU.

Mae Kevin wedi’i eni a’i fagu yng Ngogledd Cymru ac yn gyfrifydd ACMA Cymwysedig, sydd wedi dal nifer o uwch rolau cyllid yn y sectorau bwyd a diod / gofal iechyd mewn busnesau teuluol sy’n tyfu yn ogystal a sefydliadau byd-eang, sydd wedi rhoi profiad uniongyrchol iddo o’r heriau a wynebir wrth raddio i fyny.


Cysylltwch!

A ydych chi’n gwmni bwyd a diod yng Nghymru, gydag uchelgais i uwchraddio, ond nid ydych chi’n sicr lle i ddechrau? Mae ein Rheolwyr Clwstyrau Rhanbarthol ar gael ar gyfer ymgynghoriadau un i un er mwyn dysgu mwy am eich uchelgais o ddatblygu.

Cysylltwch â nhw YMA i drefnu eich ymgynghoriad un i un.

3 views0 comments

Comments


bottom of page