“Mae penderfyniadau ond cystal â'r wybodaeth sydd gennych” – Jon Langmead, Prif Swyddog Ariannol, Puffin Produce
Wythnos diwethaf, gwahoddodd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy grŵp o fusnesau bwyd a diod a rhanddeiliaid ar ymweliad maes â chyfleuster blaengar Puffin Produce yn Llwynhelyg, Hwlffordd i weld a chlywed sut mae gwybodaeth reoli yn llywio’r holl benderfyniadau o fewn y busnes – o’r cae i ystafell y bwrdd.
Erbyn hyn, Puffin Produce yw cyflenwr tatws mwyaf Cymru, gan gyflenwi bron i holl fanwerthwyr mawr Cymru gydag amrywiaeth eang o datws, yn ogystal â dewis ehangach o lysiau. Amlinellodd Reolwr Gyfarwyddwr Puffin Produce, Huw Thomas, sut y buddsoddwyd £35M yn y busnes yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, gyda buddsoddiad pellach o £1.4M mewn paneli solar ar waith. Serch hynny, nid yw buddsoddiadau sylweddol fel y rhain yn cael eu gwneud heb ragolygon ariannol cadarn a data cywir.
Aeth Huw â’r grŵp ar daith o amgylch y safle, gan ddilyn siwrnai’r daten o’r adeg y mae’n cyrraedd i’r golchi a’r graddio, y storio, ac yn olaf, y pecynnu a’r cludo – caiff pob rhan o’r daith ei holrhain gan feddalwedd gweithgynhyrchu sy’n sicrhau’r defnydd gorau o’r peiriannau a’r bobl, ac fe’i defnyddir i gynhyrchu adroddiad cyllid wythnosol swmpus y mae pob adran yn ei dderbyn ac yn craffu arno. Mae cyfarfodydd adolygu wythnosol a rhagolygon parhaus yn galluogi'r tîm rheoli i ymateb i unrhyw broblemau yn gynnar diolch i wybodaeth fanwl, sy'n golygu penderfyniadau gwell.
Serch hynny, nid yw busnes yn rhedeg ar wybodaeth reoli yn unig. Mae pobl yn elfen hanfodol o unrhyw fusnes llwyddiannus. Mae Puffin yn ymfalchïo yn y berthynas sydd ganddyn nhw gyda’r gadwyn gyflenwi gyfan – o’r tyfwyr maen nhw’n gweithio gyda nhw yn Sir Benfro i’r berthynas hirdymor gyda’r manwerthwyr. “Peidiwch â gofalu amdanoch chi eich hun yn unig” oedd cyngor Huw. Gan edrych i’r dyfodol, mae recriwtio’r bobl orau a thalu cyflog da iddyn nhw yn allweddol i Puffin, gan fod yn gyflogwr delfrydol yn Sir Benfro sydd yn denu a cadw’r dalent o fewn y sir.
Rhoddodd yr ymweliad hwn gipolwg i’r grŵp o fusnes hynod o gymhleth, a sut mae eu system gwybodaeth reoli soffistigedig yn caniatáu i'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau yn y busnes wneud penderfyniadau gwybodus ac amserol.
Os hoffech ymuno ag ymweliadau tebyg yn y dyfodol, cysylltwch â Rheolwr eich Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy neu Angharad.evans@bic-innovation.com
コメント