Ar ôl gyrfa mewn bancio, mae’r Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol , Wyn Jones, yn cynnig ei fewnwelediadau i sut i reoli sgôr credyd eich busnes a pham ei fod yn bwysig.
Beth yw Sgôr Credyd?
Sgôr Credyd yw rhif sy'n dynodi pa mor ddibynadwy ydych chi, neu'ch busnes wrth fenthyca ac ad-dalu arian.
Sut a Pham mae Sgôr Credyd yn cael ei ddefnyddio?
Bydd bron pob system sgorio credyd yn effeithio ar bron pob penderfyniad benthyca gan Fanciau'r DU a sefydliadau cyllid eraill o dan £100 mil. Mewn llawer o achosion dyma fydd yr unig elfen o'r broses benderfynu.
Bydd pob cwmni cyllid arall gan gynnwys HP, Asset Finance, Cyllid Cerbydau, Cyllid Masnach, a Chyllid Anfoneb yn cyfeirio at systemau tebyg.
Mae'r sefydliadau hyn yn rhedeg eu systemau sgorio credyd eu hunain ond maent hefyd yn cyfeirio at Asiantaethau Cyfeirio Credyd am sgoriau credyd allanol.
Beth sy’n effeithio ar eich Sgôr Credyd?
Os ydych chi'n bwriadu benthyca o fanc, bydd system sgorio'r banc yn edrych ar Ddata Mewnol a Data Allanol.
Data Mewnol – Hanes eich cwmni gyda nhw. Er enghraifft, pa mor hir mae'ch cyfrif wedi bod ar agor? A ad-dalwyd dyled blaenorol mewn pryd? Neu a oes unrhyw eitemau heb eu talu oherwydd diffyg arian?
Data Allanol – Daw Data Allanol o chwiliadau Asiantaeth Cyfeirio Credyd, sgôr credyd personol cyfarwyddwyr, Data Tŷ Cwmnïau, CThEM, Dyfarniadau Llys Sirol (CCJs) a chytundebau credyd eraill sydd yn cael eu gwrthod.
Ein 10 Awgrym:
CADW TREFN
Lle bynnag y bo modd, peidiwch â gadael i sefyllfa fynd yn flêr. Talwch credydwyr pan yn ddyledus, peidiwch ag ymestyn telerau credyd - mae'n well gofyn am delerau hirach na cham-drin y rhai sy'n bodoli eisoes. Cyfathrebwch â chredydwyr, peidiwch â'u cuddio neu eu hanwybyddu.
BARNIADAU LLYS SIROL (County Court Judgements)
Mae CCJs yn aml am symiau cymharol fach ac mae diffyg talu oherwydd anfodlonrwydd neu fân gwynion. Peidiwch â gadael iddyn nhw gyrraedd y llys! Gallant gael effaith negyddol, ddifrifol ar eich sgôr credyd. Weithiau mae'n well talu.
ARIAN YN Y BANC
Cadwch lygad agos ar falans y banc. Os oes gennych broblemau, yna siaradwch â'r banc o flaen llaw. Mae cyfathrebu clir gyda'r banc yn well na dim cyfathrebu o gwbl!
AD-DALIADAU
Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pryd mae'ch ad-daliadau'n ddyledus a sicrhau bod gennych chi arian ar gael er mwyn eu talu mewn da bryd.
TY CWMNÏAU
Sicrhewch eich bod yn cyflwyno cyfrifon a ffurflenni i Dŷ'r Cwmnïau mewn pryd ac yn gyflawn. Mae ffurflenni hwyr yn gallu peri gofid ac amheuon I fenthycwyr.
NEWID MEWN GWYBODAETH
Os bydd unrhyw wybodaeth yn newid, fel cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig, gwnewch yn siŵr eich bod yn ei diweddaru'n gyflym. Hysbyswch unrhyw gyflenwyr, cwsmeriaid a Thŷ Cwmnïau am unrhyw ddiweddariadau.
CYDWEITHIO
Cydweithiwch â'ch cyflenwyr. Os oes gennych berthynas waith dda, gofynnwch iddynt ddarparu adborth a rhannu data eich taliadau gydag Asiantaethau Cyfeirio Credyd.
CYLLID PERSONOL
Sicrhewch fod eich cyllid personol yn iach. Os ydych chi'n fusnes cychwynnol heb lawer o wybodaeth ariannol, gellir defnyddio data o gyfrifon personol perchennog y busnes i gyfrifo sgôr credyd eich busnes.
CYFLWYNWCH GEISIADAU CREDYD DIM OND PAN YN ANGENRHEIDIOL
Gall fod yn demtasiwn ac weithiau'n hanfodol i archwilio'r opsiynau cyllid sydd ar gael i chi a'ch busnes. Trwy gyflwyno gormod o geisiadau credyd mewn cyfnod byr, gallai hyn awgrymu eich bod yn cael trafferth sicrhau cyllid. Gall hyn hefyd sbarduno archwiliad credyd ar eich busnes, a fydd yn cael eu gofnodi ar eich cofnod credyd ac yn y pendraw, gall effeithio ar eich sgôr credyd. Wrth ymholi am gyllid, gofynnwch am ddyfynbris yn lle hynny, i gyfyngu ar y difrod posibl.
GWIRIWCH EICH SGÔR
Gwiriwch sgôr credyd eich busnes yn rheolaidd. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer rhybuddion sy'n eich hysbysu pan fydd eich cofnod credyd yn newid. Fel hyn, gallwch chi weithredu'n gyflym i unioni unrhyw broblemau.
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau? Siaradwch ag un o'n Rheolwyr Clwstwr, mae eu manylion cyswllt i'w gweld yma.
Comments