top of page

Cynllun Gwella Platfform Digidol

Updated: Aug 26, 2022

Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio cynllun newydd mewn ymateb i’r cyfnod heriol diweddar pan amlygwyd yr angen i weithio gyda busnesau i ddatblygu eu platfform digidol.


Bydd y prosiect yn cynnig cyfle i hyd at 65 o fusnesau lletygarwch a chynhyrchwyr bwyd a diod i fanteisio ar gefnogaeth arbenigol i wella eu platfform digidol dros gyfnod o flwyddyn. Byddwn yn cydweithio gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau er mwyn adnabod anghenion digidol penodol busnes, ac yna’n cynnig sesiynau hyfforddiant a mentora i ddiwallu’r anghenion hynny.


Bydd yr hyfforddiant yn cael ei deilwra yn benodol i anghenion busnesau sy’n rhan o’r cynllun, a gall gynnwys ystod eang o gyrsiau digidol, er enghraifft:


  • Creu strategaeth marchnata ddigidol

  • Creu neu uwchraddio cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a'i ddefnyddio'n effeithiol

  • Gwella gwefannau a chreu cynnwys deniadol

  • Dadansoddi a defnyddio data digidol yn effeithiol i gryfhau’r busnes

  • Hysbysebu’n ddigidol

  • Diogelwch digidol a GDPR

  • Creu fideos deniadol i’w defnyddio i farchnata

  • Creu neu uwchraddio llwyfan prynu/gwerthu ar-lein

  • Gwella sgiliau digidol cyffredinol

  • Cymorth i wella’r ddarpariaeth Gymraeg a chreu ‘Naws am Le’ yn ddigidol


Fel rhan o’r cynllun bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio gyda phrosiectau Arloesi Gwynedd Wledig i hybu cydweithio rhwng busnesau lletygarwch a chynhyrchwyr a darparwyr bwyd lleol, ac i gryfhau’r gadwyn gyflenwi. Byddwn hefyd yn annog busnesau i ddefnyddio iaith a diwylliant cyfoethog yr ardal i ddenu cynulleidfaoedd ehangach.


Bydd y cynllun yn rhedeg tan fis Mehefin 2023. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Siwan Evans ar 01286 679394 neu drwy e-bostio PlatfformDigidol@gwynedd.llyw.cymru


Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan YMA.





Comments


Cysylltwch

Amdanom Ni

Polisi Preifatrwydd

Cyswllt

 

© 2023 SSU Cluster

Ffôn01656 861536

E-bost: bwyd-food@bic-innovation.com

 

Cyfeiriad: BIC Innovation, 1 Court Road, Bridgend, CF31 1BE

  • LinkedIn
  • Twitter
  • Instagram
  • YouTube

Wedi'i greu'n falch ganJake TregoninggydaWix.com

Government Logo-01.png

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Cyflwynir gan BIC Innovation.

Cyflwynir Gan:

BIC New Logo.PNG
bottom of page