Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran costau yn gadwyn gyflenwi, a rhagwelir y bydd hynny’n gwaethygu dros y misoedd nesaf.
Mae Cymru Connect yn adnodd platfform caffael peilot sydd â’r nod o gefnogi cynhyrchwyr i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy effeithlon a chadarn.
Mae’r llwyfan yn cael ei gynnal gan Canopy ac mae’n cynnwys gwybodaeth wedi’i dilysu am gyflenwyr.Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Her Adfer Covid.
Manteision i’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan:
Cyfle i fasnachu â chyflenwyr sydd wedi’u dilysu ymlaen llaw ac sydd wedi’u cymeradwyo yn unol â safonau cydymffurfio y cytunwyd arnynt
Gwybodaeth am gyflenwyr yn cael ei chasglu o’r ffynhonnell, ei harchwilio a’i chymeradwyo, gan gael gwared â’r costau gweinyddol a’r baich o gynnal gwiriadau diwydrwydd dyladwy ar sail unigol, gan leihau’r risg
Potensial i gydweithio â chynhyrchwyr eraill i sicrhau arbedion maint a lleihau costau
Annog “marchnad fewnol” o brynu oddi wrth ei gilydd, gan hyrwyddo cadwyni cyflenwi byrrach
Hyfforddiant system lawn yn cael ei ddarparu i’r cynhyrchwyr sy’n cymryd rhan am ddim
Peiriant chwilio cynhwysfawr sy’n caniatáu i gynhyrchwyr ddod o hyd i gyflenwyr sy’n bodloni gofynion penodol, a masnachu â nhw
Gall cynhyrchwyr fod yn brynwyr nwyddau neu wasanaethau ac yn gyflenwyr i gynhyrchwyr eraill
Rydyn ni’n chwilio am gynhyrchwyr fel chi i weithio gyda ni ar y cynllun peilot hwn a manteisio ar
arbedion effeithlonrwydd caffael a helpu i fynd i’r afael â’r heriau presennol sy’n wynebu cynhyrchwyr yng Nghymru yn y gadwyn gyflenwi.
Comments