Pam mae prisiau nwy wedi cynyddu?
• Cafwyd gaeaf oer, hir yn ystod 2020-2021 – Mi wnaeth hyn wagio storfeydd nwy naturiol
• Cynhyrchiant isel o ynni solar a gwynt, o ganlyniad i haf gwael a thywydd llai gwyntog
• Cau safleoedd glo yn raddol
• Tân yn difrodi llinell bŵer allweddol sy’n cysylltu’r DU â Ffrainc
• Llai o nwy o Rwsia – mae allforion yn un rhan o bump o’r lefelau cyn y pandemig
Sut mae hyn yn effeithio ar y sector fwyd?
Effaith uniongyrchol y cynnydd yng nghostau ynni yw y bydd y rhain yn cael eu trosglwyddo i ddefnyddwyr. Gan fod ynni yn elfen fawr o’r gost i wneuthurwyr, bydd prisiau cynyddol yn effeithio’n uniongyrchol ar elw cynhyrchwyr bwyd, gan gynyddu eu sylfaen costau mewn perthynas uniongyrchol â lefel eu cynnyrch.
Canlyniad uniongyrchol o godiad yn y costau ynni yw cau dwy ffatri wrtaith allweddol sy'n cael eu rhedeg gan CF Industries, oherwydd nad ydyn nhw'n gallu ymdopi â'r tariffau ynni cynyddol a osodir arnyn nhw. CF Industries sydd yn cynhyrchu 60% o CO2 gradd bwyd y DU ac mae wedi cymryd ymyrraeth gan Lywodraeth y DU a degau o filiynau o bunnoedd i gael un o'r planhigion ar waith eto i ateb y galw, ond bydd hyn yn dal i olygu prisiau Co2 chwyddedig, gan roi pwysau pellach ar lawer o gynhyrchwyr bwyd a diod a'u helw ymylon. A dim ond datrysiad tymor byr o 3 wythnos yw'r ymyrraeth hon.
Sut gall busnesau liniaru effaith cynnydd mewn prisiau ynni?
Byddwch yn onest â’ch cwsmeriaid – fel y nodir uchod, bydd costau ynni uwch yn cael effaith fawr ar gost cynhyrchu, ac felly efallai y byddai’n werth cael sgwrs agored gyda’ch cwsmeriaid ynghylch effaith hyn ar eich proffidioldeb.
Byddwch yn gadarn gyda’ch contractau ynni – os bydd eich cyflenwr yn methu, y cyngor gan Ofgem yw y byddant yn sicrhau y bydd cyflenwadau nwy a thrydan yn parhau’n ddi-dor. Byddwch yn cael eich trosglwyddo, ynghyd â’ch credyd i “gyflenwr pan fetha popeth arall”. Bydd eich contract yn newid i gontract tybiedig, a fydd, yn y tymor byr, yn debygol o gostio mwy i chi gan fod y cyflenwr newydd yn ysgwyddo risg ychwanegol.
Siopwch o gwmpas ar ôl i bethau dawelu – Os caiff cyflenwr newydd ei ddyrannu i chi, ar ôl iddyn nhw gysylltu, holwch am eu tariff rhataf a gofyn i gael eich rhoi ar y tariff hwnnw. Ar yr un pryd, dylech fod yn siopa o gwmpas am gyflenwr newydd – mae angen i chi fod yn sicr eich bod yn derbyn y pris gorau ac ni fydd ffioedd gadael os ydych yn dymuno newid.
CO2 ; Ceisiwch brynu ymlaen llaw – Os ydych chi’n gwybod beth yw eich amserlen gynhyrchu ar gyfer y Nadolig, a bod gennych ddigon o gyfalaf gweithio, allwch chi brynu eich mewnbwn CO2 angenrheidiol nawr, yn hytrach nag yn nes ymlaen? Does dim sicrwydd y byddwch wedi prynu am y pris gorau, ond gallai fod yn ddewis gwell na methu â chyflawni eich archebion dros y Nadolig.
Ceisiwch wneud arbedion syml – Efallai fod hyn yn ymddangos yn amlwg, y mwyaf ynni-effeithlon yw eich uned brosesu, y lleiaf fydd eich costau ynni. Er y gallai fod yn rhy hwyr i’r argyfwng presennol, edrychwch ar y prosesau a’r dewisiadau arbed ynni fel goleuadau gyda synwyryddion symud, goleuadau LED, deunydd inswleiddio effeithiol ar gyfer oeri a gwresogi.
Comments