Wyn Jones, Rheolwr Clwstwr Rhanbarthol
Nodwedd boblogaidd iawn a fynnodd lawer o ddiddordeb ar ein stondin Parth Buddsoddwyr yn nigwyddiad diweddar Blas Cymru, oedd ein Diagram Venn Ecwiti. (gweler isod) Mae'n amlinellu, yn gyffredinol, lle gallai gwahanol fathau o fuddsoddiad ecwiti fod yn briodol mewn cylch bywyd busnes.
I fod yn glir, pan mae busnes yn derbyn buddsoddiad ecwiti, mae’r trafodion canlynol yn digwydd:
Mae perchnogion y busnes yn gwerthu cyfran o gyfranddaliadau yn y busnes i drydydd parti (y buddsoddwr);
Yn gyfnewid am y cyfranddaliadau, mae'r busnes yn derbyn swm o arian parod;
Nid yw’r buddsoddiad arian parod yn ad-daladwy, ac yn gyffredinol ni chodir llog arno, sef y fantais fawr sydd gan ‘fuddsoddiad’ o ran dyled;
Mae’r buddsoddwr yn cadw'r cyfranddaliadau, gyda'r bwriad o'u gwerthu yn y dyfodol pan fyddant, yn ôl y gobaith, wedi cynyddu mewn gwerth, ac o bosibl yn gallu derbyn difidendau ar eu cyfranddaliadau, os ydynt ar gael trwy elw.
Mathau o Fuddsoddwyr:
Yn y rhifyn hwn, byddaf yn edrych ar y tair ‘F’, cyllido torfol ac angylion busnes. Fel arfer, mae'r rhain berthnasol ar ddechrau, ac yn ystod blynyddoedd cynnar, cylch bywyd busnes.
3 Y Tair ‘F’ Friends (Ffrindiau), Family (Teulu), Founder (Sefydlydd)
Mae'r math hwn o fuddsoddiad fel arfer yn digwydd yn ystod y cam cysyniad neu gam cychwyn busnes. Fel arfer, mae'n ddigon i sefydlu eich busnes, am werth cyfartalog o £1-£10k, ar gyfer cyfran leiafrifol yn y busnes. Yn aml, mae’r buddsoddiad yn anffurfiol, heb ei reoleiddio, ac o risg uchel i'r buddsoddwr; tra’i fod yn cynrychioli chwistrelliad cyflym o arian parod i berchennog y busnes.
Cyllido Torfol Ecwiti
Dyma'r arferiad o ariannu busnes trwy godi symiau bach o arian oddi wrth nifer fawr o bobl, fel arfer ar-lein, trwy lwyfan cyllido torfol, e.e. Crowdcube neu Seedrs.
Mae cyllido torfol yn dal i fod yn ffurf gymharol newydd o fuddsoddiad ecwiti yn y DU, ac mae’n parhau i esblygu. Fe'i defnyddir fel arfer wrth gychwyn busnes, yn aml cyn i unrhyw werthiannau gael eu cynhyrchu, ond mae'n gynyddol boblogaidd ar gyfer busnesau sy'n ehangu gydag elfen o hanes masnachu. Yn hanesyddol, y gronfa gyfartalog a godwyd yw £50,000 i £100,000, ond bu codiadau llawer uwch yn ddiweddar, gyda £2m ddim yn anghyffredin. Fodd bynnag, nid yw'r dull hwn yn addas ar gyfer pob busnes, a’r peth allweddol yw cael digon o 'dorf' o bobl â diddordeb yn eich busnes.
Mae cyllido torfol yn cynrychioli risg uchel iawn i fuddsoddwyr, ond am werth isel.
Mae angen llawer o waith paratoi gan gwmnïau sy’n cyllido’n dorfol, e.e. paratoi cynlluniau, cyflwyniadau a deunyddiau marchnata cadarn. Mae ffioedd yn daladwy i’r platfform, ac ymgymerir â diwydrwydd dyladwy trwyadl, a all fod yn annymunol, yn enwedig gan nad oes unrhyw sicrwydd y bydd y cynnig yn cael ei dderbyn.
Angylion Busnes
Unigolyn sy'n darparu cyfalaf i fusnes, yn gyfnewid am berchnogaeth leiafrifol neu ecwiti (cyfranddaliadau), yw buddsoddwr angel. Mae'r rhain yn unigolion gwerth net uchel sy'n chwilio am elw ar eu cyfalaf. Mae angylion busnes yn aml yn buddsoddi mewn busnesau sy’n gweithredu yn y sector neu’r cam lle maent eisoes wedi rhedeg busnesau’n llwyddiannus, fel eu bod yn dod ag arian a phrofiad. Weithiau, maent yn buddsoddi fel syndicet, sef grŵp o fuddsoddwyr unigol sydd ag agweddau tebyg at risg a dewisiadau sector. Mae’r unigolion hyn yn aml yn chwilio am gysylltiad agos â’r busnes, fel arfer fel mentor i’r uwch dîm arwain.
Gall y gwaith paratoi, cyflwyno a diwydrwydd dyladwy fod yn gynhwysfawr a chymryd llawer o amser, ond mae’n werth chweil os gellir dod o hyd i'r angel cywir. Mae dod o hyd i'r ‘cemeg’ iawn rhwng perchennog busnes ac angel hefyd yn hollbwysig. Ar gyfartaledd, mae buddsoddiadau am gyfnodau o 5 i 10 mlynedd.
Crynodeb
Mae'r erthygl hon yn drosolwg lefel uchel o'r mathau o fuddsoddiadau a allai fod ar gael i BBaChau sy'n chwilio am gyllid ar ddechrau neu ym mlynyddoedd cynnar cylch bywyd eu busnes. Un o'r heriau mwyaf sy’n gysylltiedig â buddsoddiad ecwiti yn eich busnes yw'r galwadau ar amser rheoli. Mae cynnal 'perthnasoedd â buddsoddwyr' yn tueddu i gymryd mwy o amser ac i fod yn fwy cymhleth po bellaf i lawr y rhestr o fathau o fuddsoddiadau yr ewch. Bydd buddsoddwyr mwy soffistigedig yn gofyn am lif parhaus o ddata perfformiad busnes, diweddariadau am gynnydd prosiectau, gwybodaeth am y farchnad ac ati.
Ni ellir pwysleisio hyn ddigon, pa bynnag lefel o fuddsoddiad y mae busnes yn ei ystyried, ffactor hollbwysig yw'r ‘cemeg’ neu'r berthynas rhwng arweinyddiaeth y busnes a buddsoddwyr. Os nad yw hyn yn iawn, mae'r buddsoddiad yn annhebygol o fod yn llwyddiannus i fusnes y buddsoddwr.
Mae lle i bob un o’r mathau o fuddsoddiad a restrir uchod, ac maent yn briodol ac yn fuddiol ar gyfer set benodol o amgylchiadau yng nghylch bywyd busnes, ond mae gan bob un ohonynt heriau ac anfanteision hefyd. Defnyddiwch y dolenni yn ein Diagram Venn Ecwiti i ddeall y manteision a’r anfanteision o bob math, neu cysylltwch ag un o’n Rheolwyr Clystyrau Rhanbarthol os hoffech drafod ymhellach. Mae’r manylion cyswllt i’w cael yma.
Comments