Gall lleoliad gynrychioli un o'r cyfyngiadau mwyaf o ran capasiti i fusnesau bwyd neu ddiod. A ydych yn cynhyrchu yn eich eiddo eich hun, neu a ydych yn defnyddio trydydd parti ar gyfer eich contract prosesu neu bacio?
Mewn byd delfrydol, hoffai cwmnïau bwyd a diod gael holl fanteision bod yn berchen ar eu hadeilad eu hunain, sy'n atgyfnerthu'r fantolen gyda'r ased ac yn cynnig yr opsiwn o allu benthyca yn erbyn yr ased hwnnw er mwyn ariannu twf. Gan dybio nad yw hynny'n opsiwn, yna sicrhau les ar adeilad yw'r opsiwn mwyaf amlwg.
Ond mae dod o hyd i adeilad addas i’w rentu yn her fawr. Y prif faterion y clywn oddi wrth ein haelodau Clwstwr yw:
Diffyg mynediad cerbydol i adeilad sy’n addas ar gyfer cynhyrchu bwyd a diod;
Sicrhau cymeradwyaeth draenio gwastraff, beth a faint sy’n gallu cael ei waredu;
Pŵer (3 cham ac ati) a’r prif gyflenwad nwy;
Cyfansoddiad yr adeilad: a yw’n ddiogel rhag plâu, a yw’n addas ar gyfer addasiadau mewn ardaloedd risg uchel, a yw’n cynnwys ystafelloedd newid, a yw’n cynnwys arwyneb llawr derbyniol, draeniau ac insiwleiddiad sy’n ddiogel rhag tân ac sy’n yswiriadwy?
Os ydych yn chwilio am eiddo newydd, boed fel tenant neu berchennog, cymerwch amser i ystyried yr holl gostau, megis dadfeiliadau neu waith adfer, yswiriant adeiladau, archwiliadau trydanol ac ardystiadau. Gall y materion cudd hyn, sydd yn aml heb eu cyllidebu, gostio arian, amser ac ymdrech gwerthfawr. Gallai costau gosod eitemau megis boeleri ar gyfer prosesu bwyd a diod fod yn uwch, neu’n cymryd mwy o amser na’r disgwyl; ac ni fydd modd adennill costau gosod os byddwch yn penderfynu symud i safle arall, werthu neu ddatgomisiynu’r ffatri.
A ydych chi'n ystyried gwerthu o'ch safle cynhyrchu gyda siop ffatri “ychwanegol”? Peidiwch ag anghofio gwirio’r rheoliadau cynllunio lleol – efallai y bydd cyfyngiadau yn eu lle sy’n cyfyngu ar oriau agor, symudiadau cerbydau, sŵn ac ati.
Os ydych yn denant, gwnewch yn siŵr bod yna hawlildiadau landlord ar waith er mwyn sicrhau bod benthycwyr sy'n ariannu offer cyfalaf yn fodlon y gallent adfer eu hoffer o'r safle pe bai'r hyn na ellir ei ddychmygu yn digwydd.
Ac nid yw'r ystyriaethau yn gorffen gyda'r safle ei hun. Nid oes diben sicrhau safle gwych os nad oes gennych fynediad at staff. A allant gyrraedd y safle cynhyrchu yn hawdd? Os yw’r safle mewn lleoliad gwledig, beth yw’r opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y rhai heb geir? Pa mor dda yw'r isadeiledd lleol? A yw'r cyflenwad pŵer yn ddigonol ar gyfer eich busnes? Beth am gyflymder band eang? Pa mor hygyrch yw’r safle, nid yn unig i staff ond i gludwyr, negeswyr ac o ran dosbarthu?
Mae busnesau bwyd a diod yn aml yn defnyddio prosesu neu becynnu contract fel ffordd o sicrhau mwy o gapasiti os yw'r safle'n gyfyngus. Os gall cwmni arall gynhyrchu eich cynnyrch, yn unol â’ch manyleb, ar gyfradd economaidd, fel isafswm maint archebion, costau a lefelau gwastraff, efallai bod yr opsiwn hwn yn caniatáu i’ch busnes ehangu oddi ar y safle, hyd yn oed os mai dim ond er mwyn caniatáu i chi brynu amser cyn ymrwymo i safle newydd, safle estynedig neu ailgynllunio a gosod offer ar eich safle.
Yn gryno, gall dod o hyd i’r eiddo iawn, yn y lle iawn, gyda chaniatâd, gwasanaethau, pobl a mynediad at farchnadoedd fod yn gymhleth, yn ddrud ac yn drafferthus, a dylech ond ystyried symud ar ôl i chi wasgu pob diferyn olaf o welliannau cynhyrchiant o’r safle presennol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed mwy am sut i oresgyn heriau capasiti, cofrestrwch YMA i fynychu ein cynhadledd gyntaf, Arian i Dyfu, ar 24 Mawrth 2022.
Commenti