Efallai y byddwch yn gofyn pam fyddech chi'n ystyried dod â Chyfarwyddwr Anweithredol i’ch busnes bwyd neu ddiod? Wedi’r cyfan, does neb yn nabod eich busnes yn well na chi!
Weithiau gall hynny fod yn broblem ynddo’i hun. Mae perchennog busnes neu Reolwr Gyfarwyddwr mewn perygl o ymwneud yn ormodol â’r fusnes neu'n rhy agos at y busnes i weld y gwendidau, neu'n methu â gweld y darlun ehangach wrth benderfynu i ba gyfeiriad i dyfu'r busnes. Oherwydd nad yw Cyfarwyddwr Anweithredol yn ymwneud â rhedeg pethau o ddydd i ddydd, byddan nhw’n edrych ar eich busnes gyda phâr newydd o lygaid ac yn cynnig atebion ac awgrymiadau nad ydych chi, o bosib, wedi'u hystyried erioed.
Ychwanegwch at hynny flynyddoedd o brofiad y Cyfarwyddwr Anweithredol. Fwy na thebyg, byddan nhw wedi bod rownd y bloc busnes sawl gwaith yn ystod eu gyrfa a bod ganddyn nhw lyfr bach du o gysylltiadau defnyddiol y gallan nhw droi atyn nhw. Allwch chi ddim rhoi pris ar hynny mewn gwirionedd!
Ac i gloi, hyblygrwydd. Chi sy'n penderfynu faint o fewnbwn sydd ei angen arnoch chi wrth Gyfarwyddwr Anweithredol. Wythnosol, misol, chwarterol. Beth sy'n iawn i chi a'ch busnes? Efallai y bydd angen mwy o fewnbwn arnoch chi i ddechrau a’i leihau wrth i’r busnes dyfu, neu efallai y bydd angen Cyfarwyddwyr Anweithredol gwahanol arnoch chi gyda sgiliau gwahanol wrth i’r busnes dyfu.
Diddordeb mewn dysgu mwy am sut gall Cyfarwyddwyr Anweithredol fod o fudd i’ch busnes ond yn meddwl ei fod yn rhy gymhleth neu'n cymryd gormod o amser? Rhowch gynnig ar y 3 cham syml hyn:
1. Lawrlwythwch a chwblhewch ein Matrics Sgiliau’r Bwrdd i nodi unrhyw fylchau posib o ran sgiliau
2. Edrychwch ar y Proffiliau Cyfarwyddwyr Anweithredol ar ein gwefan – oes ganddyn nhw’r sgiliau sydd ar goll?
3. Siaradwch â’ch Rheolwr Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy neu Joan Edwards ynglŷn â’n rhaglen Cyfarwyddwyr Anweithredol
Comments