top of page
Background

Ffrindiau, Teulu a Sylfaenydd

Ffrindiau, teulu a sylfaenydd; dyma'r tri man cychwyn i'r rhan fwyaf o fusnesau newydd sy'n chwilio am gyllid. Yn aml, dyled fydd hynny, ond mewn rhai achosion, gellir cynnig ecwiti i helpu'r cwmni gyda llif arian yn ystod y camau cychwynnol.

 

I sylfaenwyr, hwn fydd yr ecwiti cychwynnol a roddir yn y busnes adeg ymgorffori. Gellir darparu a gwasanaethu cyllid pellach drwy ddefnyddio cyfrif benthyciad cyfarwyddwr, sy'n rhyw fath o ddyled sy’n ddyledus i'r cyfarwyddwr gan y busnes (sydd fel arfer y sylfaenydd yn ystod y camau cychwynnol).

 

Gellir cynnig ecwiti i ffrindiau a theulu yn dibynnu ar faint fydd eu mewnbwn, serch hynny, os ydyn nhw am fod yn gyfranddaliwr segur, ni fydd y swm fel arfer yn fwy na 5%, a bydd wastad bron yn gyfran leiafrifol.

 

Gobeithio mai dim ond ar y dechrau y bydd angen y buddsoddiad hwn, ac er ei bod yn bwysig cadw'r buddsoddwyr hyn yn gynwysedig, ni fyddai disgwyl iddynt fod yn rhan o redeg y busnes o ddydd i ddydd. Dylent ddeall, y gallai gwerth eu buddsoddiad gael ei golli, neu y gallai gymryd mwy o amser na'r disgwyl i allu cael enillion, naill ai mewn difidend neu'r buddsoddiad yn ôl.

 

Gallai'r enillion ar eu buddsoddiad fod yn ddibynnol ar gyllid yn y dyfodol, boed yn ariannu torfol neu drwy werthu'r busnes yn dilyn hynny, pryd y pennir gwerth. Mae cytundebau deiliad cyfranddaliadau yn bwysig o ran gwerthu busnes, felly dogfennwch a chadwch unrhyw gofnodion cyfranddaliadau yn ddiogel.

Maint Arferol y Buddsoddiad: £1K-£10K

Cyfran: Tua 5%

Amserlen: 5-10 Mlynedd

MANTEISION

ANFANTEISION

Mae sicrhau'r math hwn o fuddsoddiad fel arfer yn broses eithaf cyflym ac yn isel o ran cost heb lawer o ddiwydrwydd dyladwy

Defnyddir yr arian parod hwn fel arfer i helpu i roi hwb i ddatblygiad syniad er mwyn iddo gynhyrchu refeniw

Yn lleihau'r ecwiti sydd gan y sylfaenydd

Gan amlaf, ceir diffyg ymwneud ymhlith y buddsoddwyr hyn, ac fel arfer, mae’r ecwiti sy’n cael ei roi yn y dull hwn yn ecwiti na ellir ei roi i fuddsoddwyr eraill sy’n ymwneud yn fwy

NODWCH:

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.

Cysylltwch

Amdanom Ni

Polisi Preifatrwydd

Cyswllt

 

​

© 2023 SSU Cluster

Ffôn01656 861536

E-bost: bwyd-food@bic-innovation.com

 

Cyfeiriad: BIC Innovation, 1 Court Road, Bridgend, CF31 1BE

  • LinkedIn
  • Twitter
  • Instagram
  • YouTube

Wedi'i greu'n falch ganJake TregoninggydaWix.com

Government Logo-01.png

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Cyflwynir gan BIC Innovation.

Cyflwynir Gan:

BIC New Logo.PNG
bottom of page