top of page
Background

Venn Diagram

Mae ein Diagram Venn Ecwitiyn amlinellu, yn gyffredinol, lle gallai gwahanol fathau o fuddsoddiad ecwiti fod yn briodol mewn cylch bywyd busnes.

 

Pan mae busnes yn derbyn buddsoddiad ecwiti, mae’r trafodion canlynol yn digwydd:  

 

  • Mae perchnogion y busnes yn gwerthu cyfran o gyfranddaliadau yn y busnes i drydydd parti (y buddsoddwr);

  • Yn gyfnewid am y cyfranddaliadau, mae'r busnes yn derbyn swm o arian parod;

  • Nid yw’r buddsoddiad arian parod yn ad-daladwy, ac yn gyffredinol ni chodir llog arno, sef y fantais fawr sydd gan ‘fuddsoddiad’ o ran dyled;  

  • Mae’r buddsoddwr yn cadw'r cyfranddaliadau, gyda'r bwriad o'u gwerthu yn y dyfodol pan fyddant, yn ôl y gobaith, wedi cynyddu mewn gwerth, ac o bosibl yn gallu derbyn difidendau ar eu cyfranddaliadau, os ydynt ar gael trwy elw.  

SWM A
GODWYD
£££££

SWM A GODWYD
£

FFRINDIAU,
TEULU
SYLFAENYDD

CYLLIDO TORFOL ECWITI

ANGYLION BUSNES

CYFALAF MENTER

CYFALAF MENTER
CORFFORAETHOL

ECWITI
PREIFAT

CYNNIG CYHOEDDUS
CYCHWYNNOL

CLICIWCH Y SWIGOD I DDARGANFOD MWY


CYSYNIAD

CYN DECHRAU

GWERTHU (EGIN)

CYN DECHRAU
GWNEUD ELW
(HEDYN)

ELW BACH

(CYFRES A)

PROFFIDIOL AC YN TYFU

(B/C)

WEDI'I SEFYDLU / AEDDFED

(GADAEL)

NODWCH:

Bwriad y ddogfen hon yw bod yn gymorth i'ch helpu chi i ystyried gwahanol fathau o gyllid a pha rai a allai fod yn briodol i'ch busnes; nid yw'n ganllaw cynhwysfawr i bob math o gyllid. Gallai fod goblygiadau treth a chyfreithiol gwahanol yn gysylltiedig â gwahanol fathau o gyllid. Dylid ceisio cyngor treth a chyfreithiol proffesiynol i baratoi ar gyfer y gwahanol fathau hyn o gyllid.

bottom of page