Adroddiad Blynyddol
Adroddiad Blynyddol y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy 2022-23
​
2022-2023 oedd ail flwyddyn gyflawni’r Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy. Bu’n flwyddyn heriol iawn i’r sector bwyd a diod a ninnau newydd fod drwy bandemig Covid-19.
Gwelsom gyfraddau chwyddiant yn dechrau codi, a’r rhyfel yn Wcráin yn gwneud y sefyllfa’n waeth. Mae llawer o fusnesau bwyd a diod wedi gorfod ymdopi â chostau mewnbwn uwch ac amhosibl eu rhagweld, gan gynnwys costau ynni, llafur, pecynnu a chynhwysion allweddol, wrth geisio diwallu anghenion eu cwsmeriaid.
Mae rhagfynegi a chyllidebu wedi mynd yn fwy fyth o her. Ac wrth i’r argyfwng costau byw ddechrau brathu, mae pasio rhywfaint o’r cynnydd mewn costau mewnbwn ymlaen i gwsmeriaid manwerthu a gwasanaethau bwyd wedi bod yn anodd.
Adroddiad Blynyddol y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy 2021-22
​
Dros y blynyddoedd diwethaf, un thema sydd wedi codi’n gyson yn sector bwyd a diod Cymru yw’r angen i fusnesau allu uwchraddio’n gynaliadwy mewn ffordd sy’n fforddiadwy ac yn ymarferol. Mae gweledigaeth a datganiad cenhadaeth y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy yn hyrwyddo twf busnesau, ac mae’n gyson â strategaeth y sector, “Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod o 2021 – Adeiladu ar ein llwyddiant”, a lansiwyd gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn 2021.
Rydym yn falch o rannu adroddiad blynyddol cyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy sy’n disgrifio’r prif weithgareddau a themâu yn y flwyddyn gyntaf o ddatblygiad y clwstwr. Rydym hefyd wedi cynnig rhai ystyriaethau polisi ar sail yr heriau penodol y mae aelodau’r clwstwr yn eu hwynebu wrth geisio uwchraddio ar ôl y blynyddoedd cythryblus diwethaf.